jump to content

Gwylio Adar yn Ngŵyr

Adar

Gwylanod penddu ail aeaf

Mae'r gwylanod effro, prysur yma'n cael eu gweld amlaf ym maes parcio Bae Bracelet ac ym maes parcio Penclawdd wrth ymyl yr Estuary Bar & Rooms. Yn yr un ffordd â gwylanod bychain maent yn aeddfedu i fridio mewn dwy flynedd, ond yn bridio mewn heigiau ar ddŵr croyw ac nid ar Benrhyn Gŵyr. Y cap siocled (nid du) yw gwisg haf yr oedolyn.

Brain coesgoch

Bu’r brain coesgoch yn absennol am hir iawn oddi ar Benrhyn Gŵyr, ond maent yn ôl yma ac yn magu mewn ogofâu neu rigolau yn y clogwyni. Mae’r rhannau heb blu arnynt yn goch lliw cwrel a’u hadenydd yn hawdd eu hadnabod oherwydd eu siâp bysedd. Gwrandewch am eu crawcian, sy'n amlwg o deulu'r frân ond yn uwch eu sain na’r jac do y maent i’w gweld yn eu cwmni yn aml.

Cnocell werdd fenywaidd llawn dwf

Nid yw'r adar deniadol ond swil hyn yn gwneud popeth a ddisgwyliwn gan gnocell y coed. Maent yn aml ar ben clogwyni, tiroedd comin a chyrion cors gogledd Gŵyr. Mae tai â lawntiau weithiau'n eu denu, oherwydd eu bod yn bwydo ar nythod morgrug.

Pibydd coeswerdd

Yn fwy o faint ac yn fwy urddasol na’u cefndryd y pibydd coesgoch, gellir gweld yr adar hardd i’r llygad yma ar gyrion mwdlyd y draethell ger maes parcio Penclawdd. Mae eu galwad wrth hedfan yn denu sylw’r gwyliwr adar gwybodus.

Cudyll coch ifanc yn Rhosili

Hebogiaid (falcons) yw’r rhain, nid Gweilch (hawks). Gall y miloedd lawer o ymwelwyr â Rhosili weld cudyll coch yn hofran uwch ben y clogwyni ac yn cadw’n llonydd er gwaethaf y cerrynt aer cythryblus. O'u safle yn uchel yn yr awyr gall eu llygaid craff ddod o hyd i chwilod, ceiliogod rhedyn a llygod y gwair y maen nhw’n eu bwyta. Mae’r ieir yn fwy na’r ceiliogod.

In Welsh ‘Hebogiaid’ and ‘Gweilch’ are interchangeable and can, in fact, be used as translations for both ‘Falcons’ and ‘Hawks’. We have used the English names in brackets for clarity.

Barcud coch

Dyma un o'r llwyddiannau mawr ym myd cadwraeth. Yn y pumdegau a'r chwedegau roedd rhai yng nghanolbarth Cymru ond bychan oedd y niferoedd. Erbyn hyn maent wedi hen sefydlu yng Nghymru a Lloegr. Maent wedi magu ar Benrhyn Gŵyr ac fe'u gwelir yn gyffredin ym Mawr – yn enwedig yng nghronfeydd dŵr Dyffryn Lliw

Cornchwiglen

Mae'r adar hirgoes hyn yn dal i fridio ar Benrhyn Gŵyr, ond dim ond ychydig ohonynt. Yn y gaeaf, ar y llaw arall, fe'u gwelir mewn heigiau mawr a gellir eu hadnabod o bell oherwydd eu hadenydd llydan, a ‘dwylo’ ar eu blaen. Mae eu cân hiraethus 'piiwit' yn unigryw ac yn un o bleserau’r corsydd.

Gwyach fach ar Bwll Deheuol Oxwich

Disgrifir eu cân fel trydar. Unwaith y byddwch yn ei hadnabod, mae’n ddefnyddiol i ddod o hyd i’r adar yma cyn i chi gyrraedd y dŵr agored – pwll, llyn, aber – lle gallwch weld ychydig ohonynt. Maent yn treulio cyfnod syfrdanol o amser dan ddŵr yn pysgota.

Corhedydd y waun

Aderyn y mae’n ymddangos bod ei niferoedd yn gostwng. Ar rostir agored a thir comin, corhedydd y waun yw’r aderyn bach brown nad yw’n ehedydd. Maent yn adar sy'n nythu ar y ddaear, ac felly gall anifeiliaid sathru arnynt ac yn sicr gall y gog ymosod ar y cywion.

Pibydd du ym Mhortheinon

Aderyn i gadw golwg amdano ar y creigiau ym Mhortheinon a sarn Rhosili. Nid yw'r lliw yn amlwg, ond mae eu diffyg ofn cymharol yn agos at bobl yn eu gwneud yn ddeniadol. Maen nhw yma yn y gaeaf.

 

Dewch yn Aelod o Gymdeithas Gŵyr

Ymunwch â ni i fwynhau a diogelu'r ardal unigryw hon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Aelodaeth.